Skip to content

Cynulliad Blynyddol Better Food Traders 2026

Cysylltu sector bwyd cynaliadwy annibynnol y DU

Bydd aelodau, partneriaid a chyfeillion rhwydwaith Better Food Traders yn cyfarfod yn Ne Cymru ar gyfer diwrnod o ymgysylltu, cyfnewid yr hyn a ddysgwyd a strategaeth ar y cyd. Ein ffocws eleni fydd y sector bwyd ysbrydoledig yng Nghymru a sut mae llwybrau newydd i’r farchnad a chadwyni cyflenwi byr yn helpu i newid y system fwyd. 

Cynulliad Blynyddol Better Food Traders

Dydd Mercher, 10 Mehefin 2026

Penarth, ger Caerdydd, De Cymru

 

YMUNWCH Â NI

 

Cynulliad Blynyddol Better Food Traders 2026 1
Cynulliad Blynyddol Better Food Traders 2026 2
Better Food Traders Annual Gathering 2025
 
 
 
 
 
 

Pam ydym ni’n ymgynnull?

Bob blwyddyn, mae aelodau Better Food Traders a phartneriaid y sector o bob cwr o’r DU yn dod at ei gilydd i gysylltu â masnachwyr sy’n rhannu’r un syniadau, i gyfnewid yr hyn a ddysgwyd ac i sbarduno syniadau newydd ar gyfer eu mentrau. Dyma sut yr oedd pethau’n edrych y llynedd.

Eleni, rydyn ni’n dod ynghyd ar lan môr hardd Penarth i archwilio sut y gallwn ddal ati i adeiladu system fwyd fwy gwydn a rhyng-gysylltiedig, a sicrhau bod masnachwyr annibynnol, cynhyrchwyr bwyd cynaliadwy a dinasyddion yn y greiddiol i’r cyfan.

Byddwn yn dysgu gan y sector bwyd ysbrydoledig yng Nghymru a sut mae llwybrau newydd i’r farchnad a chadwyni cyflenwi byr yn helpu i newid y system fwyd.

Byddwn yn cael ein hwyluso gan fasnachwyr ac ymgyrchwyr y system fwyd – Dawn Dublin (Black Butterfly) a Gareth Roberts (Regather).

Trwy gydol y dydd, byddwn yn ystyried y pwysau a’r posibiliadau sy’n wynebu ein system fwyd a ffermio, o’r ergydion annisgwyl i’r gadwyn gyflenwi i wydnwch bwydydd lleol, a byddwn yn cydnabod y rôl hanfodol a chwaraeir gan fasnachwyr annibynnol yn hyn oll. Byddwn hefyd yn dysgu gan y system fwyd yng Nghymru, yn clywed gan bobl sy’n gwneud y gwaith hwn ledled y DU, ac yn edrych tuag at y dyfodol yr ydym yn dymuno ei adeiladu.

Pwrpas y Cynulliad Blynyddol yw rhoi amser cynhyrchiol wyneb yn wyneb i Aelodau a phartneriaid BFT i ystyried y ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i ailadeiladu sector bwyd cynaliadwy annibynnol. Mae hwn yn ofod ar gyfer sgyrsiau sy’n herio’r meddwl, ar gyfer ysbrydoliaeth, dysgu a chysylltiadau defnyddiol i bawb sy’n mynychu, ac ar yr un pryd bydd yn rhoi mewnwelediad treiddgar i’r hyn a fydd yn llunio gwaith Better Food Traders yn y flwyddyn i ddod.

 
 
 
 
 

Beth fyddwn yn ei wneud? 

 
 
 
 
 
 

Pam ddylwn i fynychu?

 

Bydd hwn yn gyfle unigryw i gysylltu â masnachwyr a chynhyrchwyr bwyd eraill a’r rhai sy’n creu newidiadau mewn systemau bwyd.

Bydd pawb yn cyfrannu rhywbeth ac yn gadael gyda rhywbeth. Golyga hyn eich bod yn rhannu eich arbenigedd ac yn gadael gyda mwy o wybodaeth, syniadau a chysylltiadau na phan ddaethoch chi yno. Boed hynny’n weithrediadau masnachu sy’n dychwelyd i’r egwyddorion sylfaenol neu feddwl am y darlun ehangach – gyda’n gilydd byddwn yn cyd-greu diwrnod a fydd yn llawn ystyr, cytbwysedd a chyfnewid cydfuddiannol ar gyfer masnachwyr a phartneriaid y sector.

Y bwriad yw y byddwch yn:

  • Helpu i lunio’r diwrnod ymlaen llaw
  • Cysylltu â chyd-fynychwyr cyn y digwyddiad a llunio sawl perthynas yn ystod y dydd
  • Cyfnewid gwybodaeth â masnachwyr sy’n gweithio ledled y DU a phobl sy’n gyrru polisïau a gwaith sy’n berthnasol yn genedlaethol
  • Gadael yn teimlo ar eich ennill a chydag ymdeimlad cliriach o’ch lle mewn mudiad ehangach, rhyng-gysylltiedig

Pryd

Dydd Mercher, 10 Mehefin, 10.30am – 5pm (cyrraedd am 9.45am ymlaen er mwyn dechrau’n brydlon am 10.30am)

Ble

Pafiliwn Pier Penarth

Agenda

Agenda. 

Cost

Am ddim i Aelodau BFT a masnachwyr.

£30 i bartneriaid y sector.

Bwyd

Bydd diodydd meddal, byrbrydau a chinio yn cael eu darparu.

Mynediad

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein digwyddiadau mor hygyrch ag sydd bosibl. Mae hyn yn cynnwys ystyriaethau ynghylch niwroamrywiaeth, iaith, salwch cronig, rhyw, dosbarth, hil a ffyrdd eraill y mae pobl yn cael profiadau yn y byd. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â mynediad, cysylltwch â ni fel y gallwn weithio gyda chi i wneud yn siŵr eich bod yn gallu cymryd rhan.

Y lleoliad

Mae ein gofod cyfarfod ar y llawr gwaelod ac yn hygyrch trwy ramp. Cynhelir derbyniad diodydd dewisol (4–6pm) ar yr ail lawr, y gellir ei gyrraedd gyda lifft. Mae toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod. Mae cyfleusterau newid babanod ar gael.

 

Bwrsariaeth deithio

Mae nifer cyfyngedig o fwrsariaethau teithio ar gael i aelodau a phobl ag anghenion mynediad. Cysylltwch â membership@betterfoodtraders.org i ofyn am gymorth gyda’ch costau teithio. Y cyntaf i’r felin fydd hi, ac ni ofynnir unrhyw gwestiynau.

Teithio – cludiant cyhoeddus
Mae trenau o orsaf Caerdydd Ganolog i Benarth yn cymryd tua 12 munud. O Orsaf Penarth, bydd gwaith cerdded o 10 munud trwy barc i’r Pafiliwn. Sylwer bod hyn yn cynnwys llethr cymedrol ar i lawr a grisiau ar y ffordd i’r lleoliad, a felly hefyd i fyny’r allt wrth ddychwelyd.

Teithio – parcio
Mae parcio trwy’r dydd am ddim ar gael 10 munud o waith cerdded o’r lleoliad. Sylwer bod allt gymedrol debyg yma hefyd. 

 

Mae 6 bae parcio i’r anabl yn union y tu allan i’r Pafiliwn, ynghyd â lleoedd parcio stryd ychwanegol y gall deiliaid Bathodyn Glas eu defnyddio drwy’r dydd yn ddi-dâl.

Teithio – tacsis

Gellir gofyn am dacsis i/o’r orsaf neu’r maes parcio ar gyfer pobl ag anghenion mynediad. Gofynnwch ymlaen llaw trwy e-bostio membership@betterfoodtraders.org.



Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cofrestrwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi!

Share This Post

Change Tastes Good

By swapping your supermarket shop for a Better Food Trader you are doing the planet a massive favour.

Sign Up. Pick Up. Eat Up.